Golau gwyrdd i fferm wynt gyntaf y DU dan berchnogaeth ei defnyddwyr, gyda chyfraniad o £1.1m gan Lywodraeth Cymru

  • Bydd fferm wynt Ripple yn ehangu mynediad at ynni adnewyddadwy ac yn lleihau tlodi tanwydd
  • Mae prosiect ynni gwyrdd arloesol Ripple yn derbyn grant o £1.1m gan Lywodraeth Cymru
  • Bydd cannoedd o deuleoedd ledled y DU yn elwa o ynni gwyrdd fforddiadwy fel canlyniad i’w haelodaeth o fferm wynt Ripple
  • Model perchnogaeth cydweithredol arloesol fydd á goblygiadau pellgyrhaeddol i’r farchnad ynni

Heddiw, mae Ripple Energy, platfform perchnogaeth ynni glân cyntaf y DU, wedi cyhoeddi ei fod wedi sicrhau £1.1m mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu fferm wynt. Bwriedir cwblhau y gwaith erbyn hydref 2021. Sicrhawyd £1.8m arall o arian masnachol.

Mae hon yn foment arwyddocoal yn hanes ynni cynaliadwy yn y DU, gan alluogi unrhyw gartref i berchen ar ddogn o fferm wynt. Byddant yn derbyn trydan fforddiadwy a glân ohoni trwy’r grid.

Bydd fferm wynt Graig Fatha yng Nghoed-Elai, yn Rhondda, yn eiddo i 675 o bobl sydd eisoes wedi cofrestru ar y platfform. Bydd pob aelod yn derbyn trydan gwyrdd yn uniongyrchol o’u dogn o’r fferm wynt yn ddiweddarach eleni, gan arbed hyd at 25 y cant ar eu biliau trydan bob blwyddyn ar hyd oes 25 mlynedd y fferm wynt.

Gall cartrefi pellach gofrestru ar blatfform Ripple a phrynu dogn o’r fferm wynt newydd am gyn lleied â £25.

Bydd incwm a gynhyrchir o gyfran y fferm wynt a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei sianelu tuag at fentrau sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu tlodi tanwydd yn yr ardal leol, trwy Gronfa Budd Cymunedol y fferm wynt.

Mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn ymrwymiad clir i ddatblygu mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth y defnyddwyr yng Nghymru yn y dyfodol.

Meddai Sarah Merrick, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Ripple Energy:

“Dyma’r foment rydyn ni wedi bod yn aros amdani. Erbyn y Nadolig, bydd aelodau Ripple yn cael trydan gwyrdd o’u fferm wynt eu hunain. Dyma brosiect digynsail i’r DU. Mae’n dangos y gall pobl chwarae rhan weithredol iawn yn nyfodol ynni glân y DU.

“Cenhadaeth Ripple yw gwneud perchnogaeth ynni glân yn fforddiadwy ac yn hygyrch. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei rhan yn gwireddu hynny. Am gyfnod rhy hir, mae pobl wedi eu neilltuo; nawr gallant rannu buddion ynni gwyrdd yn uniongyrchol. Dyma’r dechrau yn unig inni roi’r pŵer yn nwylo’r werin.”

Ychwanegodd David Clubb, Cyfarwyddwr, Menter Cydweithredol Graig Fatha: “Mae’r prosiect cyllido torfol hwn yn enghraifft wych o gysylltu cymunedau Cymru â’r adnodd ynni adnewyddadwy ar garreg eu drws. Bydd y prosiect yn creu cronfa i helpu i leddfu tlodi tanwydd yn yr ardal leol, ac rwy’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi galluogi Graig Fatha i symud ymlaen.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi prosiect fferm wynt Graig Fatha. Mae ynni  adnewyddadwy yng Nghymru wedi cynyddu 200% ers 2010, a’r llynedd cynhyrchwyd digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu hanner anghenion trydan Cymru ’.

“Rydym yn agos at ein nod o gael gwerth 1GW o gynhyrchu ynni mewn dwylo lleol, gyda 825MW o gapasiti ynni adnewyddadwy á pherchnogaeth leol. Yn hynny o beth, mae prosiectau fel Graig Fatha, a’r model o berchnogaeth gymunedol ar gynlluniau ynni, yn chwarae rhan hanfodol yn ein symudiad tuag at y nod o fod yn genedl sero carbon erbyn 2050.

“Mae hefyd yn hanfodol bwysig bod ynni adnewyddadwy nid yn unig yn gyfeillgar i’r amgylchedd, ond yn fforddiadwy – yn enwedig wrth i ni geisio mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu cartrefi i dalu cost eu biliau ynni.”

Bydd incwm a dderbynnir gan y Gronfa Budd Cymunedol yn canolbwyntio’n bennaf ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn yr ardal leol o amgylch y fferm wynt, ochr yn ochr â phrosiectau amgylcheddol a ddewisir gan y gymuned. Defnyddir partneriaid lleol i ddarparu arian i sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu deall a’u diwallu. Rhoddir dyraniad eilaidd i elusen genedlaethol, y Fuel Bank Foundation (FBF), sy’n darparu cefnogaeth i bobl mewn argyfwng tanwydd. Gellir ystyried bod yr elfen hon o’r CBF yn mynd i’r afael â phen arall y cylch tlodi tanwydd, gan helpu’r rhai sy mewn argyfwng er gwaethaf ymdrechion rhaglenni eraill.

Mae Ripple wedi partneru gyda Co-op Energy, wedi’i bweru gan Octopus Energy, i gael y trydan o’r fferm wynt i gartrefi ei pherchnogion. Gall cwsmeriaid newid i Co-op Energy pan fyddant yn ymuno â’r cynllun. Gwahoddir cwsmeriaid presennol Co-op Energy ac Octopus Energy i gymryd rhan hefyd. Unwaith y bydd y fferm wynt ar waith, gwireddir arbedion wrth i fferm wynt gael ei chymhwyso i’w bil trydan. Gallwch chi ymuno â’r cynllun ar wefan Ripple: www.rippleenergy.com

Gwybodaeth bellach

Am ragor o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â thîm cysylltiadau cyhoeddus Ripple yn Eulogy: ripple@eulogy.co.uk

Ynglŷn ag Ynni Ripple

Mae Ripple yn blatfform perchnogaeth ynni glân. Fe’i sefydlwyd gan Sarah Merrick yn 2017. Fe’i pleidleisiwyd yn Ddechreuad y Flwyddyn 2019 gan fuddsoddwyr Seedrs a Gwobrau Technoleg Gwyrdd Busnes. Yn ogystal â chyllido ffermydd gwynt newydd, mae Ripple ei hun yn cael ei ariannu gan dorf. Mae wedi sicrhau buddsoddiad o £1,750,000 gan bron i 2000 o fuddsoddwyr unigol.

Hyd yn hyn mae dros 650 o aelwydydd wedi prynu mwy na £1.3m o’r fferm wynt, gyda gwariant o fwy na £ 2000 ar gyfartaledd. Ar gyfartaledd mae aelodau’n prynu digon o’r fferm wynt i ddiwallu dros 80% o’u hanghenion trydan o’r fferm wynt.

Yn ddiweddar, nododd cylchgrawn Ethical Consumer Ripple ar frig offrymau ynni gwyrdd y farchnad. Lle mae defnyddwyr yn talu 100% o’u defnydd o drydan o’u perchnogaeth fferm wynt, fe sgoriodd yn uwch nag unrhyw dariff gwyrdd sydd ar gael ar y farchnad.

www.rippleenergy.com

Close Menu